Rydych chi yma: Cartref > Gweithgareddau > Cerdded
Gweithgareddau
Cerdded
Coedwig Gwydyr
Llwybr Glanrafon
Yn ol i Llanrwst
Mae dewis eang o lwybrau a chyrchfannau i blesio cerddwyr o bob math yn Llanrwst a’r ardal o amgylch. Gall gerddwyr fynd am dro hamddenol yn y dref ei hun, neu ymestyn eu coesau ymhellach y tu allan i’r dref ar hyd llawr y dyffryn neu i’r coedwigoedd ar y bryniau sy’n edrych dros y dref; neu os hoffan nhw fentro ymhellach eto, mae mynyddoedd Eryri o fewn cyrraedd y rhai mwy egniol.
Yn y dref ei hun mae Llwybr Tref Llanrwst yn daith fer sy’n cynnwys prif leoliadau hanesyddol y dref, ac mae Llwybr Glanrafon yn daith hyfryd ar hyd glannau’r Afon Conwy. I’r gorllewin o’r dref ceir Coed Gwydir, gyda nifer o lwybrau sy’n gweu eu ffordd trwy’r goedwig; mae’r llwybrau yma wedi’u marcio, ac mae mapiau Menter Coedwigaeth ar gael yn lleol. Mae’r llwybrau yma yn cynnig golygfeydd rhyfeddol dros Ddyffryn Conwy a draw at gopaon Eryri, ac ar yr un pryd yn eich hebrwng chi heibio lleoliadau diddorol adfeilion diwydiannol yr hen gyfnod mwyngloddio.
Mae’r ardal hon hefyd wedi’i britho gan lynnoedd – gyda Llyn Crafnant a Geirionnydd yn eu mysg – yn ogystal â nentydd a rhaeadrau di-rif.
I’r cerddwyr mwy uchelgeisiol, mae llethrau uwch o fewn cyrraedd o’r dref, gyda’r Carneddau yn sefyll i’r gogledd o gopaon enwocach (a mwy poblog) yr Wyddfa a Thryfan.
Os ydych yn chwilio am deithiau hamddenol ar hyd llwybrau gwastad neu rai heriol ar lethrau serth, mae Llanrwst yn ganolbwynt cyfleus i gerddwyr, beth bynnag eu dewis
Rhestr o Itemau - Gweithgareddau
- Cerdded : Llawer o deithiau a llwybrau cerdded i'w dilyn, ar lawr y dyffryn yn ogystal ag ar hyd y mynyddoedd cyfagos.
- Beicio Mynydd : Mae'r llwybrau beicio mynydd lleol yn cynnwys y llwybrau Marin adnabyddus, yng Nghoed Gwydir.
Dewch i gael eich rhestru ar Llanrwst.Net a chael sylw!
Os mai LL26 yw côd post eich busnes neu eich grŵp cymunedol, gallwch gael eich rhestru ar y wefan hon a helpu i hybu Llanrwst yn ogystal â'ch grŵp/busnes. Mae mwy o wybodaeth am sut i gael eich rhestru ar y wefan.
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwefan Llanrwst