llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Gweithgareddau > Beicio Mynydd

Gweithgareddau

Beicio Mynydd

Yn y coedwig

Yn y coedwig

Trac cul

Trac cul

Ar y bont

Ar y bont

I lawr yr allt

I lawr yr allt

Beicio Mynydd yng Nghoedwig Gwydir - Llanrwst

Mae hwn yn lleoliad ar gyfer llwybrau mynydd naturiol a llwybrau penodol ac yn addas os ydych chi'n mwynhau traciau sengl, technegol, llwybr hamddenol gyda golygfeydd neu lwybr gwyllt - gallwch ddod o hyd i'r cyfan yn y dyffryn ac o'i gwmpas.

Mae'r datblygiadau o ran creu llwybrau ac ymwybyddiaeth gynyddol o feicio mynydd yn golygu bod mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan, gyda llwybrau pob tywydd wedi'u marcio a'u graddio yn cynnig rhywbeth i bawb o ddechreuwyr pur i feicwyr medrus.

Mae rhai o'r llwybrau beicio mynydd gafodd eu creu'n benodol yng Nghoedwig Gwydir gyda'r gorau yn Ewrop, llwybrau dringo eang, golygfeydd eang, llwybrau dod i lawr eang a thraciau sengl gyda'r gorau a geir yn y byd.

Lle i Feicio

Llwybrau penodol - Taith Gwydyr Marin

(Pellter 25km, anodd, 450m o ddringo)

Cwrs traws gwlad gan fwyaf ar gyfer beicwyr gyda thrac sengl dechnegol a chyflym a gysylltir gan ffordd goedwig, bydd hon yn apelio i rai sy'n hoffi mynd i lawr gelltydd mewn mannau. Mae'r rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o'r dringo ar ffyrdd coedwig a thraciau sy'n rhoi cyfle i chi edrych ar y golygfeydd o fynyddoedd Eryri ac mae'r holl lwybrau i lawr ar draciau sengl. Mae'r traciau sengl yn amrywio o rai tynn iawn, technegol a chreigiog i rai agored a rhwydd, o goedwig dywyll i gribau agored.

Llwybrau penodol - Mynydd Cribau a Phenmachno  

(Pellter: Y ddolen 1af 19km, y ddwy ddolen (ar ôl ei chwblhau) cyfanswm y pellter fydd taith 32 km.)

Llwybrau o'r safon uchaf mewn lleoliad ardderchog sy'n dangos y dulliau diweddaraf o sut i greu llwybr,. Taith heriol gyda rhai mannau dringo cyson sy'n cynnwys mwy o olygfeydd bendigedig. Mae'r daith yn defnyddio digon o ffyrdd coedwig ond mae hefyd yn cynnwys rhai traciau sengl da, sy'n cynnwys croesi pontydd, rhannau pren uchel (nid ochr y gogledd) a chroesi nentydd.

Mae'r prosiect cyfan wedi cael ei greu gan grŵp cymunedol newydd, Menter Bro Machno, gan ymgynghori a derbyn cefnogaeth lawn y Cyngor Cymuned. Mae bocs cyfraniadau ar ddechrau'r daith er mwyn i ddefnyddwyr gyfrannu tuag at gynnal y llwybr. Dylai fod y cyfan werth punt am yr holl adrenalin!

Dilyn eich trywydd eich hun

Mae llwybrau'n cysylltu Coedwig Gwydir â'r Carneddau cyfagos (gyda'u llynnoedd niferus); hefyd mae milltiroedd o ffyrdd coedwig i'w harchwilio;

Mae Sarn Helen rhan o hen ffordd balmantog Rufeinig ar un adeg yn mynd drwy Ddolwyddelan, tua'r de

Arweinlyfr

Best MTB Trails in Snowdonia, 25 taith ar gyfer Llanrwst, Betws-Gwydir, Coed y Brenin, Llanberis a mynydd Conwy (llyfr a CD, Savege et al, £16.95, Bikefax, www.bike-fax.com).

Siop Feiciau

1868 Racing Cycle Workshop, Stryd Dinbych, Llanrwst (07916 710522).

Beics Betws, Betws-y-coed (i fyny gallt fechan, tu ôl i swyddfa'r post, sydd ar y brif ffordd, gwybodaeth am lwybrau, llogi, trwsio, ffôn 01690 710766).

Snowdonia Cycle Hire - Llandudno, Gogledd Cymru. 01492 878771 - llogi beiciau a hyfforddiant - Rydym yn darparu cyrsiau Arweinydd Llwybrau Beicio (TCL) a chyrsiau Arweinydd Beicio Mynydd (MBL) drwy'r Scottish Mountain Bike Leaders Association.

Sut i gymryd rhan?

Lansiwyd Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy ym mis Tachwedd 2006. Bwriad y clwb yw darparu cyfleoedd i blant ac oedolion lleol i fwynhau a gwerthfawrogi'r mynyddoedd a'r amgylchedd cyfagos. Mae gan y clwb egnïol hwn hyfforddwyr cymwysedig ac mae'n darparu rhaglen ddeinamig o ddigwyddiadau i bawb, o ddechreuwyr i feicwyr profiadol ac mae'n cynnig croeso cynnes a chyfeillgar.

Rhestr o Itemau - Gweithgareddau

  • Cerdded : Llawer o deithiau a llwybrau cerdded i'w dilyn, ar lawr y dyffryn yn ogystal ag ar hyd y mynyddoedd cyfagos.
  • Beicio Mynydd : Mae'r llwybrau beicio mynydd lleol yn cynnwys y llwybrau Marin adnabyddus, yng Nghoed Gwydir.