llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > Brwydr Llanrwst 954 OC

Hanes Lleol

Brwydr Llanrwst 954 OC

924 OC oedd blwyddyn olaf teyrnasiad Edward dros Loegr, a hon oedd y flwyddyn y bu iddo wynebu gwrthryfel difrifol yn erbyn ei awdurdod yn Sir Gaer, gyda’r Brenin Idwal o Wynedd yn brif ysgogwr. Heriodd Idwal orchymyn i dalu gwrogaeth i’r arweinydd Seisnig ac fe’i gyrrwyd o’i deyrnas ei hun, er iddo gael dychwelyd ymhellach ymlaen, ond ar delerau’r Sais, sefyllfa oedd yn atgas i Idwal. Yna, yn ddirybudd, gwrthryfelodd Idwal gan ymosod ym mherfeddwlad Lloegr. Bu farw Idwal a’i frawd Elise yn y frwydr hon. Dylai ei feibion fod wedi ei olynu yn ôl cyfraith Cymru. Ond ymosododd Hywel Dda ar Wynedd a bu raid i feibion Idwal ffoi.

Fel unben cyntefig, roedd Hywel, yn wir, wedi cyfuno hen gyfreithiau ac arferion llwythol y breniniaethau Cymreig. Ystyrir ei waith yn cyfundrefnu’r cyfreithiau Cymreig, yn ogystal ag ymdrechion Alfred, yn un o gonglfeini’r drefn gyfreithiol Brydeinig fodern. Pan fu farw Hywel, roedd Cymru yn mwynhau cyfnod o heddwch a ffyniant nas gwelwyd ei debyg, yn rhydd o ymosodiadau’r Llychlynwyr ac oddi wrth broblemau ar y ffin, oedd efallai’n dystiolaeth i’w nerth a’i allu i gadw’r heddwch.

Bu farw Hywel Dda yn 949 OC, yn teyrnasu dros y Deheubarth a Gwynedd, ac mewn gwirionedd, dros Gymru i gyd.

Er yr holl gyflawnodd Hywel yn ystod ei oes, dadfeiliodd y grym a’r safle oedd ganddo yn ei flynyddoedd olaf yn fuan iawn wedi ei farwolaeth. Roedd meibion Idwal Foel wedi eu gyrru o’r wlad yn 942 ac ni fuont yn fygythiad i Hywel wedyn yn ystod ei oes. Ond er iddynt gael eu gorchfygu, nid oeddynt wedi digalonni. Daeth meibion Idwal - Iago, Idwal Ieuaf, Rhodri a Meurig - yn ôl i Wynedd yn fuan wedi marwolaeth Hywel Dda i fynnu eu hawl haeddiannol i’r orsedd. Nid oedd meibion Hywel – Owain, Rhodri, Dyfnwald ac Edwin – yn fodlon colli dim o’u grym. O’u cadarnle yng Ngwynedd, gallai meibion Idwal ddibynnu ar gefnogaeth uchelwyr lleol ac am ddwy flynedd buont yn ymgyrchu i berfeddwlad y Deheubarth.

Daeth y tyndra rhwng y Deheubarth a Gwynedd i uchafbwynt gydag ysbryd y De yn is nag erioed ac roedd Rhodri ap Hywel a Dyfnwald ap Hywel angen gweithredu’n bendant. Gorymdeithiodd Rhodri a Dyfnwald i Wynedd gyda’r fintai fwyaf y gallent ei chodi. Cyfarfu’r ddwy fyddin yn Nyffryn Conwy, gerllaw tref fechan Llanrwst, i ymladd brwydr derfynol. Ni wyddom lawer am y frwydr ei hun ond mai buddugoliaeth ysgubol i fyddin y Gogledd ydoedd.

Rhestr o Itemau - Hanes Lleol