Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > Adeiladau Hanesyddol Lleol
Hanes Lleol
Adeiladau Hanesyddol Lleol
Mae nifer o adeiladau o ddiddordeb hanesyddol yn Llanrwst. Dyma rai ohonynt:
Ysgol Ramadeg Llanrwst
Sefydlwyd Ysgol Ramadeg Llanrwst ac Ysbyty'r Iesu [yr Elusendai presennol] yn 1610. Y sylfaenydd oedd Syr John Wynn o Wydir (1553 – 1626) ond mae sail gref i gredu bod John Williams, brodor o Ddolwyddelan ac eurydd Iago'r 1af, wedi rhoi rhan sylweddol o'r gwaddoliad. Bwriadwyd eu codi yn Nolwyddelan yn wreiddiol ond oherwydd y gost, codwyd yr Ysgol a'r Elusendai yn Llanrwst. Bwriadwyd i'r Ysgol gael Ysgolfeistr ac Isathro. Roedd yr Ysgolfeistr i fod yn Warden Ysbyty'r Iesu hefyd. Roedd tŷ ar gael i'r ddau. Codwyd yr Ysgol, oedd yn y Neuadd bresennol bryd hynny, mewn cae o'r enw Cae Heilyn a thai'r Ysgolfeistr a'r Isathro – tŷ'r Prifathro nawr – mewn cae a elwid Erw Defaid. Mae'r adeiladau gwreiddiol yno o hyd wedi 396 o flynyddoedd.
Yr Elusendai
Ychwanegir at harddwch y rhodfa i'r Eglwys gan res daclus yr elusendai, a elwid yn Ysbyty'r Iesu, gan Syr John Wynn, barwnig cyntaf y teulu, yn 1610, gyda 12 ystafell i ddynion yn unig. Bu farw'r preswylydd olaf, Mary Roberts, neu Mary Delyn, fel y'i gelwid, yn 1976. Yna caewyd yr elusendai a, gwaetha'r modd, dadfeiliasant. Ond diolch i Ymddiriedolwyr Syr John Wynn o Wydir ac Ymddiriedolwyr yr Elusendai, fe'u harbedwyd a'u hatgyweirio. Yn awr mae amgueddfa fechan yno yn dangos bywyd yn Llanrwst trwy'r oesau. Hefyd mae ystafell o'r 17eg ganrif, ystafell o'r 18fed ganrif a Gardd Synhwyraidd.
Yr Eglwys – Sant Grwst
Adeiladwyd yr eglwys gyntaf ar y safle presennol tua 1170. Dinistriwyd hi gan dân yn 1468. Codwyd yr eglwys bresennol yn 1470. Codwyd y tŵr tua dechrau y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod teyrnasiad Edward 1af, symudwyd y groglen hardd sydd yn yr eglwys o Abaty Aberconwy i Abaty Aberllechog, Maenan, ac ar Ddiddymiad y Mynachlogydd, daeth oddi yno i Eglwys Llanrwst.
Capel Gwydir
Mae Capel Gwydir, a godwyd gan Syr Richard Wynn yn y flwyddyn 1633 o gynllun o eiddo Inigo Jones, ynghlwm wrth yr Eglwys ar yr ochr ddeheuol. Mae'n adeilad sgwâr a dywedir i'w nenfwd rhwyllog hardd ddod o Abaty Aberllechog, Maenan. Ar lawr y capel gwelir arch anferth y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth a deyrnasodd dros Gymru am 46 mlynedd. Bu farw yn 1240 a'i gladdu yn Abaty Aberconwy. Yn 1289, pan gododd Edward 1af gastell Conwy, symudwyd arch Llywelyn i Abaty Aberllechog, Maenan, ac oddi yno, ar Ddiddymiad y Mynachlogydd, i gorff Eglwys Llanrwst ac i'w safle presennol pan godwyd y Capel.
Ar y llawr, ger yr arch ar yr ochr ddeheuol, mae corfflun Hywel Coetmor. Ar yr ochr ogleddol i arch Llywelyn mae llechfaen mawr gydag arysgrifiad ar ei ymylon i goffau pum mab Syr John Wynn fu farw yn ystod oes eu tad. Ar y mur deheuol mae dwy golofn o farmor wedi eu haddurno er cof am Maredydd Wyn, Syr John Wynn a'i wraig, y Fonesig Sydney.
Tu Hwnt i'r Bont
Mae Tu hwnt i'r Bont yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif ac mae yn nwylo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awr ac yn agored fel ystafell de. Bu unwaith yn dŷ fferm ond daeth yn Lys Sesiwn yng nghyfnod y Wynniaid.
Y Bont Fawr - Pont Llanrwst
Mae Pont Llanrwst, neu Y Bont Fawr, a adeiladwyd o rwbel graeanfaen a haenau bras o lechi lleol, gyda'i goleddf serth, ei thorddyfroedd, a'i bwâu sydd mewn tair rhan, wedi chwarae rhan amlwg ym mywyd y dref farchnad ers pan godwyd hi yn 1636.
Yn ôl y 'Calender of Wynn Papers', ar ddogfen sy'n dyddio o 1625, ddeng mlynedd cyn codi'r bont bresennol, roedd pont gynharach.
Gwelir y dyddiad 1636 ar y bont ddwywaith yn ogystal ag Arfbeisiau'r Stiwartiaid gyda'r llythrennau 'CR' (Carolus Rex/y Brenin Siarl) a phlu Tywysog Cymru rhwng y llythrennau 'CP' (Carolus Princeps/y Tywysog Siarl). Mae'r deial haul, sy'n dathlu trichanmlwyddiant y bont, o gyfnod diweddarach.
Rhestr o Itemau - Hanes Lleol
- San Grwst y Cyfaddefwr : Hanes San Grwst.
- Brwydr Llanrwst 954 OC : Manylion am Brwydr Llanrwst 954 OC.
- Sefydliad yr Eglwys Fodern : Sefydliad yr eglwys fodern yn Llanrwst.
- Cymru, Lloegr a Llanrwst – Annibyniaeth : Llanrwst yn y 13eg ganrif.
- Sefydlu Tref Farchnad : Sefydlu Llanrwst fel tref farchnad yn y 14eg ganrif.
- Afiechyd, Marwolaeth a Dinistr – y 14eg a’r 15fed ganrif : Llanrwst yn y 14eg a’r 15fed ganrif.
- Rhyfel y Rhosynnau – Iarll Penfro 1468 : Rhyfel y Rhosynnau a Llanrwst.
- Adeiladau Hanesyddol Lleol : Gwybodaeth am rhai o adeiladau hanesyddol yn Llanrwst.
- Llyfrau am Hanes Llanrwst : Llyfrau am hanes Llanrwst a allai fod o ddiddordeb.
Dewch i gael eich rhestru ar Llanrwst.Net a chael sylw!
Os mai LL26 yw côd post eich busnes neu eich grŵp cymunedol, gallwch gael eich rhestru ar y wefan hon a helpu i hybu Llanrwst yn ogystal â'ch grŵp/busnes. Mae mwy o wybodaeth am sut i gael eich rhestru ar y wefan.
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwefan Llanrwst