llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > Sefydliad yr Eglwys Fodern

Hanes Lleol

Sefydliad yr Eglwys Fodern

Roedd Eglwys Sant Grwst, ar ei safle gwreiddiol o hyd, yn un o'r eglwysi mwyaf llewyrchus yn nheyrnas Gwynedd, yn derbyn nawdd a chefnogaeth digyffelyb. Tua 1170, rhoddodd Rhun ap Nefydd Hardd, mab sefydlwr un o bymtheg llwyth pendefigaidd Gwynedd, y tir y saif yr eglwys fodern arno yn awr ar gyfer codi eglwys newydd wedi ei chysegru i Grwst y Cyffeswr.

Symbylwyd y rhodd hael hon gan weithred ysgeler o eiddo tad Rhun, Nefydd, sef llofruddiaeth y Tywysog Idwal o Wynedd. Gwahoddwyd y tywysog ieuanc, mab y Brenin Owain, i hela gyda Rhun ym mryniau Eryri. Tra'n hela, cipiwyd y tywysog gan wŷr wedi eu cyflogi gan Nefydd, a'i foddi mewn llyn gan adael ei gorff yn nofio ar wyneb y dŵr. Yn ei drallod ar glywed y newyddion, cyhoeddodd Owain y gelwid y cwm a'r llyn yn Gwm a Llyn Idwal o hynny ymlaen er parchedig gof am ei fab. Mae penderfyniad Rhun i ddangos ei boen a'i alar mewn ffordd mor bersonol trwy roi nawdd i'r Eglwys yn Llanrwst yn dangos y parch cyffredinol a gai Grwst.

Rhestr o Itemau - Hanes Lleol