Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > Rhyfel y Rhosynnau – Iarll Penfro 1468
Hanes Lleol
Rhyfel y Rhosynnau – Iarll Penfro 1468
Dioddefodd tref Llanrwst yn enbyd ar ddau achlysur. Y tro cyntaf oedd yn ystod rhyfeloedd Owain Glyndŵr. Yr ail dro oedd yn ystod Rhyfel y Rhosynnau yn ystod teyrnasiad Edward 1V yn 1461.
Tua'r adeg yma, cyhoeddodd Llanrwst a'r Abaty yn Aberconwy eu bod o blaid achos y Lancastriaid. Daeth Dafydd ap Siencyn, y cymeriad sy'n tebygu i Robin Hood yn chwedloniaeth y Cymry, yn gapten gweithredol i'r Lancastriaid. Roedd gwisg werdd Dafydd a'i ddilynwyr yn eu hymdegybu i Robin Hood. Creigiau yng Nghoedwig Gwydir ac ogof a adwaenid yn lleol fel Carreg y Gwalch, oedd cartref y brodor hwn o Ddyffryn Conwy a pherthynas i deulu'r Wynniaid.
Arweiniodd fintai o wŷr i Ddinbych, cadarnle'r lluoedd Iorcaidd yng ngogledd Cymru, a llosgi'r garsiwn yn llwyr. Dywedir bod y brenin yn gandryll a gorchmynodd i William Herbert, Iarll Penfro, ddinistrio Dyffryn Conwy.
Dyma'r adeg yn 1468 pryd y llosgwyd hen Eglwys Llanrwst. Ailgodwyd yr eglwys ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Mae hen englyn sy'n disgrifio'r difrod mawr a wnaed gan nodi'r flwyddyn;
Harddlech a Dinbech pob dôr – yn cynnau,
Nanconwy yn farwor;
Mil a phedwar cant, mae Ior,
A thrigain ac wyth rhagor
Gwrthododd y trigolion adael i hyn eu llorio ac aethant ati i ailgodi eu tref hoff. Penderfynwyd codi'r eglwys o garreg ac mae rhan o'r adeilad hwnnw'n sefyll heddiw, sef sylfaen un tŵr a rhan o fur ochr yr adeilad.
Rhestr o Itemau - Hanes Lleol
- San Grwst y Cyfaddefwr : Hanes San Grwst.
- Brwydr Llanrwst 954 OC : Manylion am Brwydr Llanrwst 954 OC.
- Sefydliad yr Eglwys Fodern : Sefydliad yr eglwys fodern yn Llanrwst.
- Cymru, Lloegr a Llanrwst – Annibyniaeth : Llanrwst yn y 13eg ganrif.
- Sefydlu Tref Farchnad : Sefydlu Llanrwst fel tref farchnad yn y 14eg ganrif.
- Afiechyd, Marwolaeth a Dinistr – y 14eg a’r 15fed ganrif : Llanrwst yn y 14eg a’r 15fed ganrif.
- Rhyfel y Rhosynnau – Iarll Penfro 1468 : Rhyfel y Rhosynnau a Llanrwst.
- Adeiladau Hanesyddol Lleol : Gwybodaeth am rhai o adeiladau hanesyddol yn Llanrwst.
- Llyfrau am Hanes Llanrwst : Llyfrau am hanes Llanrwst a allai fod o ddiddordeb.
Dewch i gael eich rhestru ar Llanrwst.Net a chael sylw!
Os mai LL26 yw côd post eich busnes neu eich grŵp cymunedol, gallwch gael eich rhestru ar y wefan hon a helpu i hybu Llanrwst yn ogystal â'ch grŵp/busnes. Mae mwy o wybodaeth am sut i gael eich rhestru ar y wefan.
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwefan Llanrwst