llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > Afiechyd, Marwolaeth a Dinistr – y 14eg a’r 15fed ganrif

Hanes Lleol

Afiechyd, Marwolaeth a Dinistr – y 14eg a’r 15fed ganrif

Byddai wedi cymryd amser i’r afiechyd gyrraedd Llanrwst, ond mi ddaeth yn y diwedd, yn 1350, a chyda’r boblogaeth eisoes yn fregus, fe darodd yn ddidrugaredd. Lladdodd y Pla Du holl boblogaeth Llanrwst, heb arbed neb. Roedd ffactorau eraill wedi cyfrannu at y dinistr: roedd y cynhaeaf wedi methu ers rhai blynyddoedd a byddai hyn wedi golygu bod y bobl eisoes yn newynog ac yn wan, ac ysbryd y boblogaeth yn isel. Ar ben hynny, golygai pwysigrwydd Llanrwst fel tref farchnad ac fel man pwysig ar gyfer croesi’r afon, fod cannoedd o bobl, hanner ohonynt eisoes wedi cael eu heintio, yn llifo i’r dref.

Ar ôl difa’r boblogaeth yn llwyr, daeth llawer o deuluoedd oedd yn wreiddiol o Lanrwst a Dyffryn Conwy yn ôl i’r dref, a dechreuodd bywyd yn y dref unwaith eto. Cyn hir, roedd Llanrwst unwaith yn rhagor yn dangos ei hun i fod yn dref annibynnol, ac yn ganolfan i’r gwrthryfel Cymreig yn erbyn rheolaeth Plantagenet Lloegr yng Nghymru. Mae enghraifft enwog o’r tueddiad hwn yn 1390, pan, gyda marwolaeth person Llanrwst, fo Llanelwy yn ceisio gwthio Sais o’r enw William Brown i’r swydd. Mae’r sgweier lleol yn gwrthod yr ymgais ac yn gyrru’r person newydd o’r dref, gan gythruddo Llanelwy ar yr un pryd. Y sgweier, neu’r yswain hwnnw, yw Hywel Coetmor, aelod o hen deulu o Fetws y Coed oedd â sedd hynafol yng Nghwm Lannerch (sydd heddiw yn ffarm ar y ffordd i Betws).

Ffigwr sy’n cael ei anwybyddu gormod wrth drafod hanes Llanrwst yw Hywel Coetmor. Y Teulu Coetmor oedd yn berchen ar gastell Gwydir yn ystod y cyfnod yma, a mab Hywel, Dafydd, a werthodd Gwydir i’r Teulu Wynn. Roedd Hywel Coetmor yn hanu o deulu bonheddig Cymreig, ac roedd yn or-ŵyr anghyfreithlon i dywysog olaf Cymru, Dafydd.

Roedd Hywel Coetmor wedi ymladd sawl tro yn erbyn y Ffrancod, gan gynnwys brwydr Poitiers, ac mae corffddelw ohono mewn gwisg arfog yn Eglwys San Grwst hyd heddiw. Pan ddychwelodd o’i ryfela ar y cyfandir, aeth yn ôl i fod yn sgweier hyd nes i wrthryfel Glyndŵr ddechrau. Mae’n anodd dychmygu y gall disgynnydd y Tywysogion Cymreig, a roddodd ei gefnogaeth i wrthryfel Cymreig, fod wedi ymladd dros y Saeson hefyd. Ond felly bu, a daeth y marchog saithdeg mlwydd oed hwn i fod yn un o brif arweinwyr gwrthryfel Owain Glyndŵr, a’i frawd, Rhys Gethin, gyda fo. Efallai mai’r cysylltiad yma oedd yn gyfrifol am ddinistrio Llanrwst gan filwyr Saesnig. Yn hydref 1402 arweiniodd Brenin Lloegr, Harri IV, fyddin o Amwythig i mewn i ogledd Cymru, ond cawson nhw’u gyrru’n ôl gan y tywydd. Ar ei ffordd adref, felly, daeth y Brenin trwy Lanrwst a chwalu’r dref yn gyfan gwbl. Cafodd yr abaty ym Maenan ei ysbeilio a’r adeiladau eu llosgi, ac adroddodd yr Abad yno, oedd wedi dangos ei gefnogaeth agored i Glyndŵr, fel bu i’r Saeson ladrata llyfrau, urddwisgoedd, cwpanau cymun ac addurniadau ar eu ffordd.

Roedd gan boblogaeth Llanrwst dasg galed o’u blaenau, gyda chanrif o ddioddef, o farwolaeth a dinistr wedi gadael ei ôl. Byddai’r gwaith o ailadeiladu wedi dechrau’n syth ond roedd synau cynnwrf yn dod o’r ochr draw i’r ffin.

Rhestr o Itemau - Hanes Lleol