llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > Cymru, Lloegr a Llanrwst – Annibyniaeth

Hanes Lleol

Cymru, Lloegr a Llanrwst – Annibyniaeth

Mae yna hen ddywediad sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw, sef Cymru, Lloegr a Llanrwst. Mae yna o leiaf ddau eglurhad o’r tarddiad.

Er bod Llywelyn Fawr, gyda bendith Brenin Ioan Lloegr a oedd hefyd yn dad-yng-nghyfraith iddo, wedi mwynhau statws digyffelyb fel arweinydd Cymreig, doedd ei ddisgynyddion ddim mor ffodus. Roedd y Brenin Ioan wedi sicrhau i Llywelyn y byddai Dafydd ei fab, ar ei farwolaeth, yn derbyn yr un hawliau ac awdurdod ag yr oedd yntau wedi’u mwynhau. Ond nid oedd gan Ioan y bwriad lleiaf o gadw’r addewid hwnnw, a hynny er bod Dafydd ap Llywelyn yn nai iddo. Gyda marwolaeth Llywelyn yn Abaty Aberconwy yn 1240, felly, dechreuwyd ar y broses o ddatgymalu’r wladwriaeth Gymreig.

Arweiniodd farwolaeth Llywelyn at newid mawr yn nhynged Llanrwst a Dyffryn Conwy. Arferai Lanrwst a Threfriw, lleoliad ei borthdy hela, fwynhau nawdd Llywelyn Fawr, ond gyda’i farwolaeth a’r helynt a ddilynodd gydag Arglwyddi’r Mers, symudwyd adnoddau a milwyr o’r ardal. Daeth plwyf Llanrwst yn fuan i fod yn gartref i’r ‘Gwylliaid’. Roedd y Gwylliaid yn bobl galed a wrthodai gydnabod unrhyw gyfraith nac awdurdod. Yna, yn 1276, meddiannodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, holl blwyf Llanrwst gyda’i 22 000 acer, oddi wrth Esgobaeth Llanelwy. Roedd yr Esgob a’r Siapter yn Llanelwy wedi’u cythruddo gymaint gan hyn, fel eu bod wedi ysgrifennu’n syth at Archesgob Caergaint yn gofyn iddo fo, a’r Pab, ymyrryd yn y mater.

Dadl Llywelyn ap Gruffudd oedd ei fod yn ymateb i gamddefnydd yr hawl i loches gan ‘de terra nostra fugitivus ac felones, qui machinati fuerent in mortem nostram’, hynny yw, gan lofruddwyr, lladron, ffoaduriaid a ffeloniaid. Cafodd y mater ei chyfeirio at Rufain, ond yn ofer. O ganlyniad, roedd gwahanol garfannau’n hawlio awdurdod dros ardal Llanrwst, a neb yn medru cytuno ar bwy oedd yn rheoli’r dref.

Daeth y cyfnod hwn i ben ar Ragfyr 11eg, 1282, pan ddaeth y dyn oedd wedi rheoli dros Wynedd am ddeugain mlynedd at ardal Llanganten, lle daeth ar draws Roger Mortimer, y marchog Seisnig, a Gruffudd ap Gwenwynwyn. Fe laddwyd Llywelyn yn y fan a’r lle, ac o fewn wythnosau roedd Mortimer wedi cyflwyno'i ben i'r Brenin Edward. Gorchmynnodd hwnnw iddo gael ei osod ar walciau Tŵr Llundain, lle rhoddwyd gydag ef, lai na blwyddyn yn ddiweddarach, ben ei frawd, Dafydd ap Gruffudd, tywysog olaf Cymru.

Yn ôl traddodiad arall, cafodd Llanrwst ei hepgor pan rannwyd Gwynedd rhwng y Pymtheg Teulu Pendefig. O ganlyniad, doedd tref Llanrwst ddim yn cael ei gweld fel rhan o Wynedd (sef gogledd Cymru i bob pwrpas bryd hynny), a chan nad oedd yn sicr yn rhan o Loegr roedd hyn yn gadael ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’.

Rhestr o Itemau - Hanes Lleol