llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > San Grwst y Cyfaddefwr

Hanes Lleol

San Grwst y Cyfaddefwr

Mae’n bosib nad yw hanesion llawer o saint Celtaidd cyfnod cynnar yr eglwys Gristnogol ddim mwy na chwedlau wedi’u creu gan esgobion brwd oedd yn awyddus i bwysleisio parodrwydd y Cymry i dderbyn Cristnogaeth, ymhell cyn eu cymdogion. Rydym yn ffodus, felly, fod llofnod Grwst i’w ganfod ochr yn ochr â llofnodion San Deiniol (sefydlwr Bangor) a San Trillo (sefydlwr Llandrillo yn Rhos), ar Siartr Frenhinol a gyflwynwyd i San Kentigern (sefydlwr yr Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy) gan y brenin oedrannus, Maelgwn Gwynedd.

Yn ôl cofnodion Gildas, mynach o’r 6ed ganrif, prin fod Maelgwn yn well na gormeswr yn ei flynyddoedd cynnar. Tuag at ddiwedd ei oes, serch hynny, dechreuodd Maelgwn agor ffiniau ei deyrnas i genhadon Cristnogol fel Grwst, Kentigern a Trillo, a chyflwyno siarteri iddyn nhw fedru sefydlu eu celloedd unigol ar hyd a lled yr hen Wynedd. Diolch, felly, i’r cysylltiad hwn gyda Maelgwn, fe allwn ddatgan mai o gwmpas y flwyddyn 540 OC y cyrhaeddodd Grwst yma, ychydig cyn marwolaeth Maelgwn, rywbryd yn ddiweddarach yn ystod y degawd hwnnw.

Beth wyddom ni am Grwst ei hun? Gwyddom fod ei fam Euronwy yn ferch i Clydno Eiddyn ab Cynwyd Cynwydion ab Cynfelyn, ac o ‘dras dda’. Roedd ei dad, Gwaith Hengaer, yn hanu o’r Brenin Coel Hen Godebog, oedd yn rheoli teyrnas yn y 5ed ganrif oedd yn ymestyn o’r Penwynion hyd at Fur Hadrian.

Gyda chyndadau mor fawr eu bri, mae’n sicr fod Grwst â chryn ddylanwad ar reolwyr lleol, yn ogystal ag ar aelodau llys y brenin a’i gyd-genhadon. Pan ystyriwn fod ceraint Grwst yn cynnwys Urien, Gwallog, Rhydderch, Nidon a San Cynderyn, gallwn ddychmygu'r fath statws y byddai wedi’i fwynhau yn yr ardal. Mae’n esbonio hefyd pam y byddai cyn nifer o reolwyr ac uchelwyr lleol wedi teithio i’w gell i dderbyn cyngor, arweiniad crefyddol ac ati ganddo. Roedd Grwst yn gydradd â nhw, ac i bob pwrpas yn un o’u plith. O ganlyniad i’w swyddogaeth unigryw, enillodd y teitl anrhydeddus Grwst y Cyfaddefwr.

Roedd cell neu Lan Grwst i’w ganfod ar y tir lle mae Capel Methodist Seion yn sefyll heddiw. Stad dai gyfagos Cae Llan oedd lleoliad yr eglwys gyntaf a gysegrwyd i’r Sant (ganrifoedd yn ddiweddarach, yn ystod y 16eg ganrif, byddai gŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yn y cae yma i ddathlu dydd gŵyl y Sant, sef Rhagfyr 1af). Ond yr hyn sydd bwysicaf oll erbyn y cyfnod hwn yn hanes y dref yw fod ganddi enw: Gwgrwstw.

Rhestr o Itemau - Hanes Lleol