llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Hanes Lleol > Sefydlu Tref Farchnad

Hanes Lleol

Sefydlu Tref Farchnad

Mae datblygiad Llanrwst i raddau yn ganlyniad i bolisïau Edward I, Brenin Lloegr. Ar ôl goresgyn y wlad, aeth Edward I yn ei flaen i sicrhau darostyngiad y Cymry. Ei gynllun oedd creu cadwyn o gaerau ar hyd y wlad, gan gysylltu atyn nhw fwrdeistrefi Seisnig yn unig, fel canolfannau gweinyddol. Conwy fyddai prif ganolfan Dyffryn Conwy. Dyma leoliad Abaty Sistersaidd Aberconwy, cartref i oddeutu wythdeg o fynaich, a man claddu Llywelyn ap Iorwerth – Llywelyn Fawr – a hen ewythr i Edward. Gorfododd y brenin y mynaich Sistersaidd i symud i leoliad newydd a godwyd yn uwch i fyny’r dyffryn, yn Aberllechog, neu Faenan, fel y câi godi ei gastell. Ufuddhaodd y mynaich, ond nid cyn llwyddo i sicrhau iawndal sylweddol ganddo.

Gyda’r gwaith o adeiladu wedi’i ddechrau, cyflwynodd Edward I ddeddfau newydd oedd yn gwahardd hawliau a statws y Cymry, ac i bob pwrpas yn eu gwneud yn ddinasyddion eilradd. Yn eu mysg roedd un ddeddf yn datgan na allai’r Cymry gynnal marchnad mewn unrhyw le o fewn deng milltir o fwrdeistref Seisnig. Mae Llanrwst un filltir ar ddeg o dref Conwy, ac, o fewn rhai misoedd, felly, roedd Llanrwst wedi newid o fod yn fan bwysig ar gyfer croesi Afon Conwy, i fod hefyd yn dref farchnad lewyrchus.

Gyda marchnad lwyddiannus a llif o deithwyr, pererinion ac uchelwyr yn defnyddio’r rhyd yno, aeth Llanrwst o nerth i nerth. Ond yna methodd y cynhaeaf trwy’r dyffryn cyfan, ac felly hefyd y flwyddyn ganlynol, a’r un ar ôl honno. Cafodd tair blynedd o gynhaeaf drwg effaith drom ar y boblogaeth. Roedd hyd yn oed y mynaich yn dioddef o fethiant y cnydau, a dilynwyd hynny wedyn gan haint a darodd yr anifeiliaid i gyd. Yna, yn ddirybudd bron, cwympodd yr economi gan arwain at yr hyn rydym ni heddiw yn ei alw’n ddirwasgiad. Yn ddyddiol rŵan, roedd teuluoedd cyfan yn gadael Llanrwst gyda’r gobaith o gael hyd i waith neu ddarn o dir âr yn rhywle arall. Roedd yr ymadawiad mor sylweddol nes beri i’r Rhyddfreinwyr yng Nghonwy orfod annog gwladychwyr i fynd i’r ardal, fel y bydden nhw yn eu tro’n dod yn rhyddfreinwyr ar fwrdeistref newydd yno.

Derbyniodd rhai teuluoedd y cynnig hwn, ac ymddangosai y byddai Llanrwst yn llwyddo i oresgyn ei hanawsterau. Ond roedd anffawd newydd yn lledaenu dros gyfandir Ewrop: afiechyd na welwyd mo’i debyg erioed o’r blaen. Y flwyddyn yw 1348, ac yn ninas orlawn Llundain mae’r achos gyntaf o bla wedi taro. Roedd y Pla Du, oedd eisoes wedi diffeithio llawer o wledydd y cyfandir, erbyn hyn wedi cyrraedd Lloegr.

Rhestr o Itemau - Hanes Lleol