Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Agoriad yr Ardd Synhwyraidd Fictorianaidd
Newyddion
Agoriad yr Ardd Synhwyraidd Fictorianaidd
Dawnsio
Triawd
Agoriad
Ar Fedi 14eg, gwelwyd dathliad yn un o fannau hanesyddol enwocaf y dref. Mae Amgueddfa’r Elusendy wedi ei lleoli ynghanol safle hanesyddol ger yr Eglwys ac ar y dyddiad hwn, gwahoddwyd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas i agor ei Gardd Synhwyraid Fictorianaidd. Hefyd, roedd yr Amgueddfa yn dathlu derbyn ei statws achrededig yn gynharach yn y flwyddyn. Cyflwynodd Linda Tomos, cyfarwyddwr CyMAL, dystysgrif achrediad i Miss Eirlys Owen, y curadur. Roedd hyn yn achos dathlu gan mai Amgueddfa’r Elusendy yw’r Amgueddfa gyntaf yng ngogledd Cymru i derbyn yr achrediad hwn
Traddodiad ac etifeddiaeth oedd canolbwynt yr achlysur. Agorwyd y gweithgareddau gan blant Ysgol Bro Gwydir yn perfformio dawnsfeydd gwerin traddodiadol ar Sgwâr Ancaster. Yna croesawyd y gwahoddedigion i’r Amgueddfa gan leisiau swynol Triawd Llanrwst. Agorwyd yr Ardd Synhwyraidd hardd yn swyddogol – achos balchder eto – a lansiwyd yr Apêl am gyllid ychwanegol i gynnal yr Amgueddfa.
Daeth y dathliad i ben gyda pherfformiad addas o gerddoriaeth draddodiadol gan y telynor lleol, Dylan Cernyw.
(06/10/2007)
Rhestr o Itemau - Newyddion
- Digwyddiadau yn Llanrwst : Manylion am ddigwyddiadau yn Llanrwst. - 05/08/2010
- Llanrwst yn Troi’n Wyrdd! : Bu’r artistiaid preswyl, Megan Broadmedow a Mari Elain Gwent yn gosod tywyrch ar draws sgwâr y dref. - 03/12/2008
- Ymwelodd Tywysog Cymru Llanrwst : Ymwelodd Tywysog Cymru Llanrwst fel rhan o’i ymweliad â Dyffryn Conwy. - 05/05/2008
- Agoriad yr Ardd Synhwyraidd Fictorianaidd : Agoriad yr Ardd Synhwyraidd Fictorianaidd yn yr Amgueddfa'r Elusendy. - 06/10/2007
Dewch i gael eich rhestru ar Llanrwst.Net a chael sylw!
Os mai LL26 yw côd post eich busnes neu eich grŵp cymunedol, gallwch gael eich rhestru ar y wefan hon a helpu i hybu Llanrwst yn ogystal â'ch grŵp/busnes. Mae mwy o wybodaeth am sut i gael eich rhestru ar y wefan.
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwefan Llanrwst