llanrwst, dyffryn conwy, gogledd cymru

Rydych chi yma: Cartref > Newyddion > Llanrwst yn Troi’n Wyrdd!

Newyddion

Llanrwst yn Troi’n Wyrdd!

Y Sgwar

Y Sgwar

Gosod y tywrych

Gosod y tywrych

Wedi gorffen

Wedi gorffen

Llanrwst yn troi yn wyrdd! Bu’r artistiaid preswyl, Megan Broadmedow a Mari Elain Gwent yn gosod tywyrch ar draws sgwâr y dref. Roedd y gosodiad artistig unigryw yma yn cynnwys perfformiad un tro yn unig wrth i’r tywyrch gael ei osod, ac roedd hefyd yn symbylu cychwyn cyfres o ddigwyddiadau yn y dref ac yng nghoedwig Gwydr sydd wedi cymryd lle yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae Megan a Mari yn gweithio ar brosiect ‘Llwybr y Ceirw’. Maent wedi cael ei comisynnu gan grŵp cymunedol Cymru, Lloegr a Llanrwst i gynhyrchu gwaith celf gyfoes er mwyn dathlu hanes gyfoethog ac amrywiol Llanrwst.

Datblygodd y syniad i osod y tywyrch ar y sgwâr gan i’r ddwy artist gael eu swyno gan y ffaith fod trigolion Llanrwst wedi gadael y dref, a gafodd ei rhoi ar dân yn y 1400au yn ystod cyfnod gwrthryfel Glyndŵr, er mwyn ceisio lloches yn y goedwig. Roedd y dref yn wag am gyhyd fel y bu i wair dyfu ar y sgwâr gan ddenu ceirw o’r goedwig yno i bori!

Fel yr esbonia Megan ‘rydym eisiau dangos y cysylltiad rhwng y dref â’r goedwig, ac i ymchwilio i ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y prosiect. Rydw i bob amser yn hoffi’r syniad o gyfuno cyferbyniadau, ac felly roedd yn teimlo’n iawn i ddod â deunyddiau naturiol i’r dref, ac i orchuddio sgwâr y dref mewn gwair.’

Ychwanegodd Mari ‘Rydym hefyd yn edrych ymlaen at wneud gwaith fydd yn adlewyrchu hen gymeriadau er enghraifft Dafydd ap Siencyn, sef y Robin Hood ‘go iawn’ a oedd yn byw mewn ogof uwchben Llanrwst’. ‘Roeddem hefyd eisiau cynhyrchu gwaith sydd yn ymwneud â thrigolion Llanrwst heddiw, gan eu bod nhw hefyd yr un mor ddiddorol. Mae’n bwysig i ni fod gan y gwaith ystyr a’i fod yn adlewyrchu diwylliant lleol.’

Mae Cymdeithas Cymru, Lloegr a Llanrwst wedi gofyn i ni gynllunio llwybr cerfluniau yn arwain o’r dref i’r goedwig. Mae Megan a Mari wedi bod yn brysur yn meddwl am ystod eang o waith cerfluniau, a’r gobaith ydi y bydd y cerfluniau yn gallu cael ei creu a’i gosod yn ystod y flwyddyn newydd erbyn hyn. Dywedodd Elliw Griffiths, ar ran Cymdeithas Cymru, Lloegr a Llanrwst ‘mae’r prosiect yma’n un cyffroes, a’r gobaith ydi y bydd elfennau o hanes a threftadaeth Llanrwst yn cael ei amlygu trwy gelfyddyd, rhag iddo fynd yn angof.

Caiff Llwybr y Ceirw ei gefnogi gan; Safle, Cyngor Celfyddydau Cymru, Menter Iaith Conwy, Menter Nant Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

(03/12/2008)

Rhestr o Itemau - Newyddion