Rydych chi yma: Cartref > Cyrraedd Llanrwst
Lleoliad Llanrwst a Gwybodaeth Trafnidiaeth
Lleoliad Llanrwst
Mae tref Llanrwst wedi’i lleoli ar lan Afon Conwy, rhwng Betws y Coed i’r de a thref Conwy i’r gogledd, ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Llanrwst wedi bod y brif ganolfan yn Nyffryn Conwy ers canrifoedd, ac mae’r dref wedi cadw ei naws a’i swyddogaeth gan barhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr, gydag oddeutu gant o siopau a busnesau bychain, lleol. Gwelir o’r map islaw bod Llanrwst mewn lleoliad delfrydol ar gyfer ymweld ag Eryri a gweddill gogledd Cymru. Am wybodaeth ynglŷn â sut i gyrraedd Llanrwst, gweler yr adrannau teithio, islaw i’r map.
Gwybodaeth Trafnidiaeth
Ar Drên
Mae gwasanaethau trên uniongyrchol yn rhedeg i Gyffordd Llandudno o’r rhan fwyaf o rannau o Brydain. Ceir cysylltiadau o Gyffordd Llandudno i lein Dyffryn Conwy, sy’n arwain i Lanrwst.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
- Ymholiadau Trenau Cenedlaethol: 08456 040500 (llinell Gymraeg) / 08457 484950
- Tocynnau/gwybodaeth ar-lein: www.thetrainline.com or www.arrivatrainswales.co.uk
Ar Fws
Mae cwmni National Express yn gwasanaethu nifer o drefi Prydain, gan gynnwys Cyffordd Llandudno. Mae gwasanaeth bws neu drên ar gael i fyny’r dyffryn i Lanrwst.
Am wybodaeth, cysylltwch â:
- Ffôn: 08705 808080
- Tocynnau/gwybodaeth ar-lein: www.nationalexpress.com
Gyda Char
Os ydych yn gyrru o dde Cymru, y ffordd fwyaf uniongyrchol yw’r A470. Wrth ddod o gyfeiriad gogledd-orllewin Lloegr, mae’r M56 a’r A55 wedi cwtogi amser teithio yn sylweddol. Mae cysylltiadau priffyrdd da gyda chanolbarth Lloegr, ac mae’r un ffyrdd – yr M6, M5 ac M1 – yn golygu bod Llanrwst yn haws ei gyrraedd o dde Lloegr hefyd. O Iwerddon, dilynwch yr A55 ar ôl cyrraedd Bangor.
Am wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chyrraedd Llanrwst a Dyffryn Conwy mewn car, gweler:
- Newyddion traffig diweddaraf : Traffic Wales (tudalen Gymraeg ar gael)
- Cyfrifydd Pellter Teithio : Cynlluniwr Ffordd yr AA
Dros y Môr
Mae llongau Irish Ferries a Stena yn cynnal gwasanaethau cyflym a mynych i Gaergybi o Ddulyn a Dun Laoghaire.
Irish Ferries
- Ffôn : 08705 171717
- Gwefan : www.irishferries.com
Stena Line
- Ffôn : 08705 707070
- Gwefan : www.stenaline.com
Dewch i gael eich rhestru ar Llanrwst.Net a chael sylw!
Os mai LL26 yw côd post eich busnes neu eich grŵp cymunedol, gallwch gael eich rhestru ar y wefan hon a helpu i hybu Llanrwst yn ogystal â'ch grŵp/busnes. Mae mwy o wybodaeth am sut i gael eich rhestru ar y wefan.
Mae'r cynnwys yn hawlfraint Gwefan Llanrwst